Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi drafftio Cod Ymarfer newydd fel rhan o’r cynllun Arsylwyr Etholiadol Achrededig. Mae canllawiau ychwanegol hefyd yn cael eu creu i gyd-fynd â'r cod hwn. Mae'r Comisiwn yn awyddus i glywed am eich barn am y Cod Ymarfer newydd arfaethedig ar gyfer arsylwyr.

Os hoffech roi adborth am y cod, cwblhewch yr arolwg hwn cyn 2 Tachwedd i sicrhau bod eich ymateb yn cael ei ystyried wrth gwblhau'r cod a'r canllawiau cysylltiedig.

Sut fyddwch chi'n defnyddio fy nata?
Mae'r arolwg hwn yn gyfrinachol a chaiff ei ddefnyddio at ddibenion ymchwil yn unig. Gallai’r adborth a gyflwynir yn yr arolwg hwn gael ei ddefnyddio’n ddienw yn adroddiadau'r Comisiwn, ac i'n helpu i wneud argymhellion i wella'r ffordd y cynhelir etholiadau yn y DU.

Gallwch ddarllen rhybudd preifatrwydd y Comisiwn Etholiadol yma: https://www.electoralcommission.org.uk/cy/hysbysiad-preifatrwydd

Dylai'r arolwg gymryd tua 5 i 10 munud i'w gwblhau a rhaid ei gwblhau ar-lein mewn un sesiwn. Bydd atebion yn cael eu colli oni bai eich bod yn cyrraedd y dudalen olaf i'w cyflwyno.

Os byddai'n well gennych anfon adborth mewn fformat gwahanol, neu os oes angen fersiwn Word o'r arolwg hwn arnoch, yna anfonwch e-bost at observers@electoralcommission.org.uk

Ar ôl darllen y Cod Ymarfer arfaethedig newydd ar gyfer Arsylwyr Etholiadol Achrededig, hoffem wybod eich barn ar y canlynol:

Question Title

* 1. Pa mor glir yw'r cod ar y rheolau ar gyfer arsylwyr a’u cyfrifoldebau?

Question Title

* 2. Dywedwch wrthym pam y gwnaethoch chi roi'r ateb hwnnw.

Question Title

* 3. A oes gwybodaeth ar goll yn y Cod yr hoffech chi ei gweld wedi'i chynnwys?

Question Title

* 4. Oes unrhyw beth yn y Cod nad ydych chi'n teimlo y dylai fod yno?

Diolch!

T